Gweithio i’r DWP
Gwobrau a Buddion
Gweithio i’r DWP
Gwobrau a Buddion
Ar hyn o bryd nid oes swyddi gwag Anogwyr Gwaith ar gael. Fodd bynnag, gwiriwch eto ganol mis Chwefror gan ein bod yn rhagweld y bydd swyddi gwag pellach ar gael tua'r adeg hon.
Buddion
Mae yna rai buddion gwych o weithio i gyflogwr mawr yn y Gwasanaeth Sifil a gallwch weld y manylion yma:
Tâl
Mae'r Adran yn talu cyflog misol sylfaenol i chi, sy'n cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae'r amrediad cyflog ar gyfer gradd EO rhwng £27,565 a £31,877 yn dibynnu ar y lleoliad rydych yn gweithio ynddo. Rydym hefyd yn cynnig taliadau ymlaen llaw o gyflog i helpu pan fydd arian yn dynn.
Yn ogystal â'ch cyflog sylfaenol, efallai y byddwch yn derbyn gwobr a chydnabyddiaeth yn y flwyddyn am gyfraniad unigolyn neu dîm i waith yr Adran.
Gallwch hefyd gyfrannu at elusen trwy wneud didyniadau yn uniongyrchol o'ch cyflog misol. Gwneir y didyniadau hyn ar sail ddi-dreth.
Pensiynau
Mae buddion pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn rhan werthfawr o'ch pecyn buddion gweithwyr. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ymweld â civilservicepensionscheme.org.uk/.
Cynllun Gostyngiadau Gweithwyr
Mae Mylifestyle yn borth buddion gweithwyr ar gyfer gweithwyr DWP, sy'n rhoi cyfle i chi ddewis buddion sy'n addas i'ch ffordd o fyw ac i arbed arian i chi.
Undebau Credyd
Mae gan DWP fynediad i gynllun cynilo cyflogres i roi ychydig o arian o'r neilltu bob mis mewn cyfrif cynilo i’w ddefnyddio pan fydd ei angen.
Cynllun Mantais Gweithwyr Vodaphone
Mae gan weithwyr DWP fynediad uniongyrchol i gynllun mantais Vodafone sy’n rhoi cysylltiadau dyfeisiau symudol personol gostyngedig.
Rheoli Talent
Mae'r DWP wedi ymrwymo i alluogi ei holl weithwyr i ddatblygu hyd eithaf eu potensial. Mae nifer o raglenni a chynlluniau datblygu ar gael.
‘Civil Service Learning’
Mae dysgu technegol a phroffesiynol ar gael trwy ‘Civil Service Learning’ neu ‘DWP Learning and Development’.
Amser i Ffwrdd a Gweithio Hyblyg
Mae gweithwyr DWP yn derbyn swm hael o wyliau blynyddol bob blwyddyn yn ogystal â diwrnodau ychwanegol ar gyfer gwyliau cyhoeddus a diwrnod braint ar gyfer Pen-blwydd y Frenhines.
Mae'r Adran yn cynnig oriau gwaith hyblyg ble bynnag y bo hynny'n bosibl. Cytunir ar y rhain yn lleol gan ystyried anghenion y busnes.
HASSRA
Sefydliad chwaraeon a hamdden ledled y wlad yw'r Gymdeithas Hamdden Iechyd a Nawdd Cymdeithasol (HASSRA) sy'n rhoi cyfle i weithwyr DWP gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol.
Anrhydeddau
Efallai y bydd rhai gweithwyr sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig iawn yn cael gwahoddiad i'r Parti Gardd Brenhinol neu eu henwebu am Anrhydedd y Wladwriaeth.

"Rydym yn anelu i fod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol ac yn croesawu ceisiadau am ein swyddi Anogwr Gwaith i'n helpu i adlewyrchu'r dinasyddion rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn hyrwyddo 'Gallaf fod yn fi yn DWP' i'n helpu i greu lle i weithio lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu wrth fod yn nhw eu hunain ac mae gan bawb ran i'w chwarae wrth greu gweithle mwy iach, diogel a chynhwysol. Mae'n amser anhygoel o gyffrous i weithio yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a gall eich cyflawniadau yn y dyfodol wir drawsnewid bywydau. Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni."
Debbie Alder - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl a Gallu
“Rydym yn anelu i fod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol ac yn croesawu ceisiadau am ein swyddi Anogwr Gwaith i'n helpu i adlewyrchu'r dinasyddion rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn hyrwyddo 'Gallaf fod yn fi yn DWP' i'n helpu i greu lle i weithio lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu wrth fod yn nhw eu hunain ac mae gan bawb ran i'w chwarae wrth greu gweithle mwy iach, diogel a chynhwysol. Mae'n amser anhygoel o gyffrous i weithio yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a gall eich cyflawniadau yn y dyfodol wir drawsnewid bywydau. Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni.”

Debbie Alder - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl a Gallu
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan DWP
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau’n gyflogwr hyblyg sy'n addasu ar gyflymder i'r cyfyngiadau a gyflwynir trwy Covid-19. Rydym yn helpu ein staff i gydbwyso gwaith a bywyd cartref ac rydym yn cefnogi eu lles. Mae rôl Anogwr Gwaith yn addasu i'r byd newydd hwn; rydym yn cydbwyso’r angen i weld cwsmeriaid wyneb yn wyneb mewn Canolfan Gwaith, rydym yn gweithio yn adeiladau’n partneriaid ac yn gweithredu’n rhithwir trwy fideo, ac ati, gan gynnwys o gartrefi ein gweithwyr lle mae hynny’n bosibl. Mae'r TG a'r cymorth a roddwn i Anogwyr Gwaith newydd yn eu galluogi i weithio gartref ond rhaid iddynt hefyd fynychu'r swyddfa neu ymweld â lleoliadau eraill pan fydd gofyn iddynt wneud hynny. Fel Anogwr Gwaith yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, efallai gallech chi fod yn gweithio yn unrhyw un neu'r cyfan o'r amgylcheddau hyn bob wythnos.
Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i fod ar eu gorau. Mae'r DWP yn ymdrechu i fod yn sefydliad cwbl gynhwysol ac rydym hefyd yn ymfalchïo mewn bod yn Arweinydd Hyderus o Ran Anabledd. Rydym yn ymrwymo'n llwyr i uchelgais y Gwasanaeth Sifil i fod y cyflogwr mwyaf cynhwysol yn y DU, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau am ein swyddi Anogwyr Gwaith gan bawb o ystod eang o gefndiroedd i helpu'r DWP i ddod yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Fel sefydliad sy'n dysgu'n barhaus mae DWP yn cynnig rhaglen ddysgu a datblygu wedi'i theilwra ar gyfer Anogwyr Gwaith, i helpu i adeiladu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymhellach i ddarparu'r gefnogaeth a'r help mae ein cwsmeriaid ei hangen.
Mae'r rhaglen ddysgu yn ymdrin ag ystod eang o bynciau technegol a phynciau sy'n seiliedig ar sgiliau, o hanfodion Credyd Cynhwysol, hyd at sgiliau annogi a gwneud penderfyniadau effeithiol. Rydym am sicrhau ein bod yn cynnig gyrfaoedd boddhaus sy'n denu ac yn cadw pobl â chymhelliant.